Y mesur organau: Ymgyrch hysbysebu
- Cyhoeddwyd

Bydd y gyfraith ar roi organau yn newid yn 2015
Bydd y cyntaf mewn cyfres o hysbysebion teledu, radio a digidol yn cael ei ddarlledu ddydd Llun i godi ymwybyddiaeth am y newid fydd yn digwydd i'r system roi organau yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2015.
Ym mis Chwefror dangosodd arolwg bod dros 40% o ddinasyddion Cymru ddim yn gwybod am y newid.
Bydd yr hysbysebion teledu'n cael eu darlledu yn ystod penodau o Pobol y Cwm ar S4C a Coronation Street ar ITV Cymru, ac yn cael eu darlledu hyd at yr wythnos genedlaethol trawsblaniadau sy'n dechrau ar 7 Gorffennaf.
Ar 1 Rhagfyr 2015, fe fydd y gyfraith yn newid, a bydd caniatâd ar gyfer rhoi organau'n cael ei ystyried i fod wedi ei roi os nad yw unigolyn wedi nodi fel arall.
Yn ôl y llywodraeth roedd 36 o bobl wedi marw yng Nghymru y llynedd wrth aros am roddwr organau addas.
'Cloc yn tician'
Fel rhan o'r hysbyseb gyntaf, bydd cloc digidol yn cyfrif i lawr i ddangos sut mae unigolion yn aml yn gorfod aros am gyfnod hir yn y gobaith o gael trawsblaniad, ac amser yn diflannu i'r rheini sydd angen organ i oroesi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'r hysbysebion radio a theledu cyfnod brig hyn yn rhan bwysig o'r ymgyrch at y dyfodol.
"Mae defnyddio'r cloc yn tician yn ffordd effeithiol o dynnu sylw at yr angen brys am fwy o roddwyr organau bob dydd er mwyn achub bywydau.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr hysbysebion hefyd yn annog gwylwyr i siarad gyda'r bobl agosaf atynt am eu dymuniadau o ran rhoi organau wrth i ni baratoi at gyflwyno'r ddeddfwriaeth nodedig hon yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2015."
Mae'r Mesur Rhoi Organau'n ymrwymo'r llywodraeth i hyrwyddo'r newid.
Mae gan weinidogion y llywodraeth gyfrifoldeb i "hysbysu'r cyhoedd am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i weithgareddau trawsblannu yn absenoldeb cydsyniad datganedig".
Er mwyn gwneud hyn maen nhw wedi lansio gwefan, dolen allanol, a bydd y cyfrif Twitter dwyieithog @OrgDonationCYM, a thudalen Rhoi Organau Cymru ar Facebook yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth system feddal o optio allan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd10 Medi 2013

- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2013
