Ymgyrch Pallial: chwech yn llys
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae chwe dyn ar gyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol yn y gogledd wedi cael gwybod y bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno ple ym mis Awst.
Roedd y chwech yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ac mae'r cyhuddiadau oherwydd ymchwiliad Pallial i gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Cafodd y diffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad nesa' ar Awst 15.
Y chwech yw:
Mark Granger, 63 oed o Gaerlŷr, sy'n wynebu pum cyhuddiad;
Roy Norry, 54 o Gei Conna, chwe chyhuddiad;
David Lightfoot, 71 o Ellesmere Port, Sir Caer, pum cyhuddiad;
Edward Huxley, 69 o Berkshire, dau gyhuddiad;
Neil Pheonix, 62 o ardal Wrecsam, un cyhuddiad;
a Keith Stokes, 61 o ardal Llangollen, wyth cyhuddiad.
Mewn achos ar wahân mae Peter Steen, 73 o ardal Wrecsam, yn wynebu tri chyhuddiad o ymosod, gan achosi gwir niwed corfforol a phedwar cyhuddiad o greulondeb i blant rhwng 1978 a 1986.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan Awst 15.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2014
