Llofrudd Antigua wedi ei ddal ar ôl dianc o'r carchar
- Cyhoeddwyd

Cafodd Avie Howell ei garcharu am lofruddio Ben a Catherine Mullany yn 2008
Mae dyn gafodd ei garcharu am oes am ladd cwpl o dde Cymru yn Antigua wedi cael ei ddal ar ôl dianc o'r carchar.
Mae ef yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu yn ei ben-glin.
Fe wnaeth Avie Howell a dyn arall, Kaniel Martin, saethu Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed ac o Bontardawe, ym mis Gorffennaf 2008.
Roedd y ddau ar ddiwrnod olaf eu mis mêl yn Antigua.
Bu farw Mrs Mullany yn syth wedi iddi gael ei saethu yn y bwthyn oedd yn rhan o'r gwesty.
Anafwyd ei gŵr yn ddifrifol a chafodd ei gludo yn ôl i Gymru cyn marw wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu ar eu mis mêl yn Antigua
Dywed heddlu Antigua fod Howell wedi dianc ddydd Iau ar ôl dringo wal 30 troedfedd (9 m), ond daeth cadarnhad brynhawn Gwener ei fod wedi ei ddal.
Roedd wedi llwyddo i ddianc gyda dyn arall oedd yn wynebu achos llys ar gyhuddiadau o dwyll.
Cafodd Howell a Martin eu dyfarnu'n euog o lofruddio Mr a Mrs Mullany yn 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
