Trywanu: Cyhuddo dyn 37 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi cael ei gyhuddo o niwed corfforol difrifol bwriadol ar ôl i ddyn gael ei drywanu yn y Tŷ Du ger Casnewydd.
Cafodd yr heddlu eu galw am 8.50am ddydd Gwener Mehefin 20 i'r digwyddiad mewn garej ar Ffordd Tregwilym.
Ymddangosodd y dyn 37 oed o Gwmbrân gerbron ynadon Casnewydd fore Llun.
Mae'r dyn 39 oed o Gasnewydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r tri dyn arall a gafodd eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi cael eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.
Ond mae'r tri wedi eu cyfeirio at Asiantaeth Ffiniau'r DU am droseddau mewnfudo honedig.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2014
