Cyngor Wrecsam i werthu hysbysebion ar ddillad staff
- Cyhoeddwyd

Gallai hysbysebion ymddangos ar adeiladau ac ar wisg staff Cyngor Wrecsam mewn ymdrech i gael mwy o arian
Er mwyn gwneud arian mae un o gynghorau'r gogledd yn ystyried gwerthu gofod hysbysebu ar wisgoedd staff.
Mae adroddiad yn dweud y gallai hysbysebion fod ar adeiladau Cyngor Wrecsam, ar deledu mewn ffreuturau ysgolion y sir, mewn llyfrgelloedd, ar grysau t ac ar ddillad arall.
Caiff y syniad ei gyflwyno i'r cynghorwyr ddydd Mercher.
Mae'r cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £45 miliwn dros y pum mlynedd nesa.
Fe sefydlodd y cyngor grwp i gynhyrchu incwm a fyddai'n edrych ar ffyrdd i gael mwy o arian.