Tân 'sylweddol' ym Mhorthcawl
- Cyhoeddwyd

Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam
Mae criwiau tân yn dal i fynd i'r afael â thân "sylweddol" ger glan y môr ym Mhorthcawl.
Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam ar y comin gyferbyn â'r rhodfa.
Mae pum injan dân o Borthcawl, Pen-y-bont, Y Bont-faen, Pen-coed a Phort Talbot wedi bod yno.
Cafodd dau dancer dŵr a dau gerbyd 4x4 eu galw i gynorthwyo.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 1:05pm.

Llun o'r awyr

Mae pum injan dân wedi bod yno.