Morgannwg yn colli i Hampshire
- Cyhoeddwyd

Mark Wallace yn batio dros Forgannwg yn erbyn Hampshire
Mae Morgannwg wedi colli i Hampshire o chwe rhediad yn y T20 yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Michael Carberry 59 rhediad a Jimmy Adams 52 wrth i'r ymwelwyr gyrraedd 170-6.
Roedd gobaith i Forgannwg pan oedd Darren Sammy (28 oddi ar 14 pêl) ar ei anterth, gydag angen am 19 oddi ar 12 pêl.
Ond cafodd ei ergyd ei ddal ger y ffin gan Adams, gyda Morgannwg yn gorffen ar 164-6.
Roedd angen 14 oddi ar y belawd olaf, ond dim ond saith a gafwyd.
Mae Morgannwg yn parhau i fod yn bedwerydd yn y grŵp, yn dal ar y trywydd iawn am le yn y chwarteri.