Marwolaeth drwy anffawd ar draeth Cefn Sidan
- Cyhoeddwyd

Cafodd Mrs Hackett ei gwahanu o'i merch wrth i'r llanw ddod i mewn ar draeth Cefn Sidan
Mae cwest wedi dyfarnu mai anffawd oedd achos marwolaeth dynes fu farw ar ôl cael ei dal gan y llanw ar draeth yn Sir Gar.
Roedd Susan Wendy Hackett, 68 o Gynwyl Elfed, wedi mynd ac wyth o gŵn am dro gyda'i merch Emma ar draeth Cefn Sidan, Llanelli ar Fawrth 30.
Aeth y ddwy i drafferth pan ddaeth y llanw i mewn yn sydyn.
Clywodd llys crwner yn Llanelli bod merch Mrs Hackett wedi methu a ffonio 999 ar ei ffôn symudol gan bod ei dwylo yn rhy wlyb.
Yn fuan wedyn, roedd dŵr y môr wedi codi i fyny at ei chanol a chollodd y ddau gysylltiad.
Cafodd Mrs Hackett ei chludo i Ysbyty Treforys mewn hofrennydd ond bu farw yn ddiweddarach.
Ddydd Gwener, dyfarnodd crwner Sir Benfro a Chaerfyrddin, Mark Layton, bod Mrs Hackett wedi marw drwy foddi, a cofnododd farwolaeth drwy anffawd.
Dywedodd Mr Layton bod y llanw yng Nghefn Sidan yn symud yn gyflym ac yn beryglus, ac ychwanegodd ei fod yn bwysig i ymwelwyr sicrhau eu bod yn ddiogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2014
