Ail gynnig o ddiffyg hyder ym Mhrifysgol Glyndŵr
- Cyhoeddwyd

Mae ail undeb wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn rheolwyr Prifysgol Glyndŵr.
Pleidleisiodd aelodau o blaid y cynnig ar ôl i'r brifysgol golli ei drwydded i noddi myfyrwyr tramor, ddaeth yn sgil y newyddion bod miloedd wedi ffugio profion iaith Saesneg.
Mae aelodau UNSAIN wedi cyhoeddi cynnig o ddiffyg hyder yn yr Is-Ganghellor, yr Athro Michael Scott a chadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Syr Hon Shortridge.
Mae'r brifysgol yn dweud eu bod yn gweithio i ddelio gydag unrhyw broblemau gyda fisâu cyn gynted a phosib.
Diffyg hyder
UNSAIN yw'r ail undeb i bleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder, ar ôl i'r Undeb Prifysgolion a Cholegau alw am newid yn gynharach yn yr wythnos.
Daw'r alwad yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Mewnfudo James Brokenshire yn Nhŷ'r Cyffredin bod Prifysgol Glyndŵr yn un o'r sefydliadau wnaeth roi canlyniadau anghywir mewn profion iaith Saesneg i fyfyrwyr.
Yn ôl Mr Brokenshire, fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad fod cangen Ewropeaidd cwmni arholi o'r enw Educational Testing Services (ETS) wedi rhoi 29,000 o ganlyniadau annilys.
Ychwanegodd fod 19,000 o ganlyniadau pellach yn codi cwestiynau. Mae ymchwiliad troseddol wedi dechrau i rôl ETS Global.
Mae gan Brifysgol Glyndŵr bedwar safle, Wrecsam, Llanelwy, Llaneurgain a Llundain. Mae'n debyg bod y canlyniadau dan sylw'n ymwneud â champws Llundain yn bennaf.
'Dyfodol ansicr'
Dywedodd trefnydd rhanbarthol UNSAIN, Geoff Edkins: "Roedd y Brifysgol yn delio gyda phroblemau ariannol yn barod yn dilyn penderfyniadau rheoli gwael.
"Mae staff a myfyrwyr yn wynebu dyfodol ansicr gyda'r bygythiad o ddiswyddiadau gorfodol a bydd gwahardd trwydded Glyndŵr gan Fisâu a Mewnfudo y DU yn gadael bwlch enfawr yng nghyllid Glyndŵr."
Ychwanegodd nad oedd gan aelodau ffydd yng ngallu'r rheolwyr presennol, a'u bod yn bwriadu "galw ar lywodraeth Cymru a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ymyrryd".
Dywedodd y Brifysgol nad oedden nhw am wneud sylw ynglŷn â'r bleidlais, ond dywedon nhw eu bod wedi ffurfio "tasglu" o staff i ddelio gyda'r pryderon gafodd eu codi gan Fisâu a Mewnfudo y DU.
"Mae'r grwp yn gweithio yn flaengar i ddelio gyda'r heriau yma ac yn cyd-weithio ac yn cysylltu yn llawn gyda Fisâu a Mewnfudo y DU."
Ychwanegodd y llefarydd bod y brifysgol yn ceisio sicrhau nad yw myfyrwyr tramor yn cael eu heffeithio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014
