Cannoedd o swyddi 'wedi eu diogelu'
- Cyhoeddwyd

Mae cytundeb mewn egwyddor ynglŷn â gwerthiant purfa olew Murco'n golygu bod cannoedd o swyddi bellach yn edrych yn fwy diogel.
Mae'r BBC yn deall mai'r entrepreneur olew Gary Klesch yw'r darpar brynwr.
Mr Klesch wnaeth sefydlu'r Klesch Group sy'n arbenigo mewn cynhyrchu a gwerthu metalau, cemegau, ac olew.
Daeth y wybodaeth am y datblygiad gan y gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb.
Dywedodd: "Mae'r cytundeb mewn egwyddor yma rhwng Murphy a'r prynwr yn gam anferth ymlaen.
"Mi fydd y gwerthiant yn diogelu cannoedd o swyddi o safon uchel a bydd yn galluogi'r burfa i barhau i weithredu'n llawn.
"Mae heriau yn parhau i fod o'n blaenau ni... ond rwyf mor hapus ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma. Rwy'n hyderus iawn y bydd y cytundeb yn cael ei gytuno."
Roedd llawer o bryder wedi bod yn ddyfodol y safle ers i'r perchnogion Murphy Oil ddweud nad oedden nhw am brynu olew ar gyfer cael ei buro yn y safle ddim mwy.
Mae bron i 400 o weithwyr yn gweithio yn y burfa, sy'n prosesu rhyw bum tunnell o olew craidd bob blwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2014
