Cofnodion ysbyty: gwahardd nyrs arall
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhuddo tri o bobol
Mae nyrs arall wedi ei gwahardd wrth i'r heddlu ymchwilio i honiadau bod cofnodion cleifion wedi eu ffugio.
Hyd yn hyn mae 13 wedi eu gwahardd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, ac un yn Ysbyty Treforys ger Abertawe.
Eisoes mae'r heddlu wedi cyhuddo tri o bobol.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: "Rydyn ni'n helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau o hyd."
2013
Dywedodd fod y bwrdd iechyd wedi gweithredu ar ôl cynnal archwiliadau byr-rybudd ar gofnodion lefelau glwcos yn y gwaed yn eu holl ysbytai.
Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i bryderon godi am gadw cofnodion yn 2013.
Arweiniodd hynny at arestio tair nyrs ar amheuaeth o esgeulustod wedi honiadau bod nodiadau wedi cael eu ffugio.
Cafodd y tair eu cyhuddo a'u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad troseddol barhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014

- Cyhoeddwyd12 Mai 2014
