Yr Heddlu'n rhybuddio fod Arian ffug yng Ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn chwe adroddiad o bapurau £20 ffug yn cael eu trosglwyddo dros y cownter yn ystod y dyddiau diwethaf.
Ar 30 Mehefin cafodd arian ffug ei ddefnyddio mewn siop ar Stryd Fawr, Phenrhyndeudraeth ac mewn tair siop yn y Bala yng Ngwynedd.
Ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf cafodd nodiadau £20 ffug hefyd eu defnyddio mewn tafarn ym mhentref Yr Hob, Sir y Fflint yn ogystal ag dau sefydliad yn Stryd y Rhaglaw, Wrecsam.
Dywedodd yr Arolygydd Dewi Jones; "Byddem yn annog siopwyr a busnesau i wirio arian papur a roddir iddynt, ac i edrych allan am y marciau cywir arnynt, neu i ddefnyddio dyfeisiau Uwch fioled sy'n gallu dod o hyd i arian papur ffug."
Yn ne Gwynedd bydd yr heddlu yn dosbarthu offer canfod arian ffug i siopwyr a pherchnogion busnes.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un a ddaw i gyswllt ag arian ffug i gysylltu â nhw ar 101.