£186,000 i brosiectau technoleg Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Lansiwyd y Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ym mis Mai'r llynedd
Mae grantiau gwerth cyfanswm o £186,000 wedi eu dyfarnu gan Lywodraeth Cymru i naw sefydliad ar gyfer sefydlu prosiectau technoleg Gymraeg.
Pwrpas y Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg, a lansiwyd ym mis Mai'r llynedd, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg drwy dechnoleg.
Ymysg y naw sefydliad y mae'r Mudiad Ffermwyr Ifanc, Menter Môn a Phrifysgol Caerdydd.
'Bywydau bob dydd'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae technoleg yn rhan bwysig o'n bywydau bob dydd, felly mae'n hanfodol sicrhau bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn ddidrafferth.
"Defnyddiwyd cyllid y llynedd ar gyfer buddsoddi mewn gwahanol brosiectau creadigol, gan gynnwys ap yr Urdd, gwefan Gymraeg newydd - ffrwti.com - a StoriNi sy'n galluogi pobl i lanlwytho newyddion o Gymru.
"Mae'r holl brosiectau hyn bellach ar waith ac maent yn boblogaidd iawn, ac yn arbennig ymysg pobl ifanc.
"Rwy'n hyderus y bydd y naw prosiect llwyddiannus yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn profi'r un llwyddiant."
Y naw sefydliad sy'n rhannu cyfanswm o £186,774 gan gynllun grantiau 2014/15 fydd:
• JOMEC, Prifysgol Caerdydd ar gyfer prosiect a fydd yn galluogi pobl i greu, cynnal a hybu newyddion cymunedol digidol yn y Gymraeg.
• Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ar gyfer creu casgliad o adnoddau 'blociau adeiladu' a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl i greu cynhyrchion digidol Cymraeg.
• NativeHQ ar gyfer cyfieithu a darparu am ddim themâu ac ategion ar gyfer system rheoli cynnwys WordPress.
• Menter Môn ar gyfer creu system i gyfieithwyr ar y pryd gan ddefnyddio ffonau symudol wedi'u hailgylchu.
• Mentrau Iaith Cymru ar gyfer creu ap i'r rhai rhwng 8 a 15 oed sy'n galluogi'r defnyddiwr i greu a datblygu cymeriadau avatar ar ffonau clyfar a llechi.
• Recordiau Peski ar gyfer datblygu gwefan, ap a chylchgrawn digidol Cymraeg i hybu cerddoriaeth wahanol o Gymru ar lefel ryngwladol.
• Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru ar gyfer creu ap a fydd yn galluogi eu haelodau ar draws Cymru i glywed am weithgareddau yn eu hardal leol.
• Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer datblygu ap dwyieithog fel y gall dysgwyr Cymraeg ganfod lleoedd a gweithgareddau a fydd yn eu galluogi i ymarfer eu Cymraeg.
• Interceptor Solutions Ltd ar gyfer prosiect i gyflymu'r broses o gyflwyno rhyngwynebau meddalwedd amlieithog.
Roedd ffrwti.com yn un o'r prosiectau a elwodd ar gyllid gan gynllun grant y llynedd.
Yn ôl Rhodri ap Dyfrig, cyfarwyddwr Nwdls.Cyf a ddatblygodd y wefan:
"Mae grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod ffrwti.com yn llwyddiant drwy symud y dechnoleg o fod yn arbrawf diddorol i fod yn graidd cadarn i wefan sydd yn amlhau ac yn hyrwyddo cynnwys a sgyrsiau Cymraeg ar Twitter a'r we yn ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd27 Mai 2013

- Cyhoeddwyd4 Awst 2012
