Achos Christopher Parry: rheithgor adref
- Cyhoeddwyd

Mae Christopher Parry yn gwadu llofruddio ei wraig, Caroline
Mae'r rheithgor yn achos Christopher Parry - sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig yng Nghasnewydd - wedi cael eu hanfon adref am y penwythnos.
Mae Christopher Parry, 49 o Gwmbrân, wedi ei gyhuddo o saethu ei wraig, Caroline Parry, yn farw y tu allan i'w chartref ym mis Awst y llynedd.
Yn Llys y Goron Casnewydd, mae Mr Parry yn gwadu cyhuddiad o lofruddio, ond mae'n cyfaddef dynladdiad.