'Dim marciau' ar Alfie ddechrau'r noson
- Cyhoeddwyd

Mae Mr Pearce yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad
Mae mam babi fu farw wedi dweud nad oedd marciau arno pan adawodd hi ef yng ngofal Michael Pearce y flwyddyn ddiwethaf.
Clywodd y llys ei fod yn dioddef o anafiadau i'r ymennydd ac yn brwydro am ei fywyd lai na dwy awr yn ddiweddarach, wrth i barafeddygon geisio'i achub.
Fe alwodd Mr Pearce y gwasanaethau brys i'w dŷ yn Nelson, Sir Caerffili gan ddweud fod y babi ddim yn anadlu.
Bu farw Alfie Sullock, oedd yn chwe wythnos oed, bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae Mr Peace yn gwadu llofruddiaeth ac ail gyhuddiad gwahanol o ddynladdiad.
'Paid â phoeni'

Bu farw Alfie Sullock bedwar diwrnod wedi iddo fynd i'r ysbyty
Mae'r erlyniad yn honni fod Mr Peace wedi ymosod arno gydag esgid a photel blastig ym mis Awst 2013.
Roedd Donna Sullock, mam y babi o ardal Tyllgoed, Caerdydd, wedi mynd allan am y noson gan ei adael yn nhŷ Mr Pearce.
Dywedodd nad oedd hi wedi rhagweld y byddai problem ei adael yno gan ei fod "yn wych gyda'r babi, yn dda iawn".
Fe gafodd nifer o negeseuon testun oedd wedi cael eu gyrru rhwng Donna Sullock a Michael Pierce y noson honno eu darllen yn y llys.
Roedd Mr Pierce wedi gyrru llun o Alfie i'w fam ac fe atebodd hithau gan ofyn: "Yw e wedi bod yn crio? Mae ei wyneb yn edrych yn goch."
Am 8:20pm fe yrrodd Mr Pearce neges yn dweud ei fod "wedi cael ychydig o wynt" ond ei fod yn "iawn nawr, yn cysgu, paid â phoeni".
'Ymddiried ynof i'
Ugain munud yn ddiweddarach, gyrrodd neges arall oedd yn dweud: "Mi elli di ymddiried ynof i, ti'n gwybod."
Am 9:07pm, gyrrodd neges arall i ddweud fod Alfie dal yn cysgu. Bedwar munud yn ddiweddarach roedd yn galw 999.
Fe ffoniodd Ms Sullock am 9:20pm i ddweud fod Alfie ddim yn anadlu a'i fod wedi cael ei gymryd i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
