Eisteddfod Mynwy yn 2016 i 'annog dysgwyr' y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod ei fod yn 'fodlon iawn' hefo'r ymateb yn y Fenni
Wrth i wythnos yr Eisteddfod agosáu, roedd dros 200 o bobl mewn cyfarfod yn y Fenni nos Iau i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Sir Fynwy yn 2016.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i bobl leol wahodd Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn swyddogol, a dangos eu cefnogaeth i'r Brifwyl.
Mae AS lleol wedi dweud y gall yr ŵyl fod yn hwb i'r iaith yn yr ardal.
Pan gaiff yr ŵyl ei chynnal dyna fydd yr ymweliad cyntaf â Sir Fynwy ers 1913.
'Bodlon iawn'
Yn siarad yn y cyfarfod, dywedodd David Davies AS ei fod "wrth ei fodd" bod yr Eisteddfod yn dod i'r sir.
"Mae'n newyddion da i'r sir ac er bod dwy flynedd i fynd, mae faint o bobl sydd wedi dod allan ar noson mor braf yn dangos pa mor frwdfrydig yw'r bobl leol am yr holl beth.
"Er, efallai mai dim ond 10 neu 20% sy'n siarad yr iaith, yn amlwg mae'n lleiafrif yn Sir Fynwy - wrth gwrs mae'r Eisteddfod yn gallu annog lot mwy o bobl i ddysgu'r iaith..."
Ychwanegodd ei fod wedi trafod gyda'r cyngor am ddarparu gwersi Cymraeg i oedolion, a'i fod "yn siŵr bydd yn rhywbeth positif iawn, iawn i'r iaith mewn ardal ble dim ond lleiafrif sy'n siarad e ar hyn o bryd".
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ei fod yn "fodlon iawn" hefo'r ymateb.
"Cafon ni nifer sylweddol o bobl yma a be' oedd yn braf oedd cymaint ohonyn nhw oedd yn barod i wirfoddoli - i'n helpu ni, felly mae hynna yn gam mawr ymlaen.
"Mae ganddon ni dipyn o her yma, wrth gwrs, ond hefo brwdfrydedd y bobl yma dwi'n siwr allwn ni 'neud o."