Enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf
- Cyhoeddwyd

Cafodd enw enillydd yr ysgoloriaeth, Tudur Parry (ail o'r dde), ei gyhoeddi ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun
Tudur Parry, o Garndolbenmaen, yw enillydd Ysgoloriaeth Ffermio Llyndy Isaf eleni.
Fe gyhoeddwyd y newyddion yn Sioe Frenhinol Cymru b'nawn dydd Llun.
Mae Tudur yn ffermwr 21 oed, sydd newydd raddio mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad o Brifysgol Aberystwyth.
Fis Medi, fe fydd yn dechrau rheoli'r fferm fynydd 614 acer, yn rhan o wobr yr ysgoloriaeth blwyddyn o hyd.
Wrth dderbyn y wobr, fe ddywedodd Tudur: "Bydd yn gyfle gwych.
"Rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at gael defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a gefais yn y brifysgol ar y fferm."
Fe gafodd Tudur ei fagu ar fferm wartheg, a dywedodd ei fod yn "gobeithio helpu i ddatblygu'r agwedd honno ar y busnes".
"Hoffwn wella fy sgiliau hwsmonaeth defaid hefyd.
"Rwy'n siŵr y bydd yn her ac rwyf ychydig yn nerfus oherwydd bod gen i esgidiau mawr i'w llenwi; mae Caryl [enillydd y llynedd] wedi gwneud gwaith ardderchog ac rwy'n falch iawn y bydd hi yno i gynnig rhywfaint o arweiniad yn ystod fy mis cyntaf."

Bydd Tudur Parry yn rheoli Llyndy Isaf fel rhan o'r ysgoloriaeth sy'n para blwyddyn
Datblygu sgiliau
Fe gafodd yr ysgoloriaeth ei llunio i annog yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu sgiliau allweddol ac ehangu ei wybodaeth am y diwydiant ffermio.
Yr ysgolor fydd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar redeg y fferm gan gynnwys rheoli stoc, gwaith gweinyddol ac ymarferol.
Dywedodd Rhys Evans, Rheolwr Gweithrediadau Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Rydym yn falch iawn o'r hyn mae'r rhaglen ysgoloriaeth wedi'i chyflawni mewn cyfnod mor fyr.
"Pan ddaw'r amser byddwn yn drist iawn i weld Caryl yn mynd, ond rydym yn hyderus bod ganddi'r sylfeini a'r gallu i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant amaethyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
