Brandio Cymraeg 'o fudd i fusnesau'
- Cyhoeddwyd

Mae caws Cenarth a Llaeth y Llan ymysg y cynnyrch sy'n defnyddio brandio Cymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi canlyniadau darn o waith ymchwil ar ddefnydd y Gymraeg o fewn y sector breifat ar faes y Sioe Frenhinol.
Y prif gasgliad yw bod cael brand Cymraeg o fantais fasnachol i'r cwmnïau sydd wedi cyfrannu at yr ymchwil.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod defnyddio'r iaith yn gallu rhoi hwb i ddelwedd cwmnïau.
Dywedodd Meri Huws: "Mae'r gwaith ymchwil cychwynnol hwn yn rhoi man cychwyn i ni wrth ddatblygu'r berthynas â'r sector cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.
"Bydd cyfeirio at dystiolaeth uniongyrchol oddi wrth gwmnïau sy'n gweithio yn y maes yn werthfawr wrth i ni drafod manteision masnachol defnyddio'r Gymraeg.
"Mae negeseuon clir yn dod allan o'r ymchwil ynglŷn â phwysigrwydd datblygu gweithluoedd dwyieithog ac ynglŷn â manteision sgiliau iaith Gymraeg staff.
"Bydd y negeseuon hyn o fudd wrth i ni barhau â'n trafodaethau â'r sector addysg ac â chyflogwyr yn gyffredinol."

Fe gyhoeddodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, fanylion yr adroddiad ar faes y Sioe ddydd Mawrth
'Gwaith i bobl leol'
Fe wnaeth cwmni iogwrt Llaeth y Llan ail-frandio eu cynnyrch yn ddiweddar er mwyn rhoi mwy o bwyslais i'r Gymraeg.
Yn ôl eu cyfarwyddwr marchnata Llior Radford, mae "mwy o bobl nag erioed o'r blaen" bellach yn gwybod am fodolaeth Llaeth y Llan.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai hyn yn "ein galluogi i gadw pobl lleol Cymraeg mewn gwaith am flynyddoedd i ddod".
Mae pennaeth Caws Cennarth yn credu bod pobl yn chwilio'n benodol am gynnych Cymraeg y dyddiau hyn.
'Sefyll mas'
Dywedodd Carwyn Adams: "Dwi'n eithaf plês â sut mae'r brand wedi datblygu tu fas i Gymru...
"Mae pobl wedi bod yn chwilio am gynnyrch Cymraeg, a dwi'n credu ei fod wedi bod yn ffactor mawr, ac hefyd mae'n sefyll mas fwy na'r cwmnïau eraill achos bod o yn y Gymraeg a bod y brand yn Gymraeg."
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws dim ond dechrau mae'r gwaith ymchwil yn y maes hwn.
Dywedodd: "Mae'r gwaith ymchwil cychwynnol eisoes wedi darparu tystiolaeth ynglŷn â'r manteision masnachol o ddefnyddio'r Gymraeg i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.
"Byddwn yn parhau i gasglu rhagor o dystiolaeth gan gwmnïau eraill mewn sectorau cysylltiedig o bob rhan o Gymru, a fydd yn sail dystiolaeth gadarn wrth i ni ddatblygu'r berthynas â'r busnesau hyn sydd yn rhan mor bwysig o'n heconomi wledig."