Pallial: Honiadau gan 275 person
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu sy'n ymchwilio i gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru yn dweud bod 275 o bobl wedi gwneud honiadau hyd yn hyn.
Daw'r ffigyrau diweddaraf o ddogfen friffio sydd wedi ei gweld gan y BBC.
Yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) sy'n gyfrifol am Ymgyrch Pallial.
Ddechrau Mehefin eleni, roedd yr ymgyrch yn ymchwilio i 49 o rai dan amheuaeth.
Mae'r NCA wedi derbyn 120 o enwau neu enwau rhannol pobl sy'n cael eu hamau o fod yn rhan o'r cam-drin, ac mae'r gwaith yn parhau i adnabod pob un.
Fwy nag unwaith
Ar hyn o bryd, mae ymchwilwyr yn credu bod 61 o bobl wedi troseddu fwy nag unwaith.
Mae 21 wedi cael eu harestio hyd yn hyn, a 10 o ddynion wedi cael eu cyhuddo.
Nawr, mae swyddogion yn ceisio dod o hyd i ragor o bobl ledled y DU a thramor.
Mae ymchwilwyr yn credu bod 16 wedi marw.
At ei gilydd, mae'r ymgyrch yn ymchwilio i gam-drin honedig mewn 28 o gartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Rhwng 1953 a 1995
Mae'n debyg fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng 1953 a 1995, a hynny yn erbyn bechgyn a merched rhwng chwech ac 19 oed.
Yn ôl yr NCA, mae disgwyl i ragor o bobl gael eu harestio a'u cyhuddo yn y misoedd i ddod.
Mae 30 o swyddogion yn gweithio ar yr ymgyrch ac mae disgwyl i'r ymchwilio barhau yn 2016.
Fe fydd achos llys y dyn cyntaf gafodd ei gyhuddo, John Allen, yn dechrau fis Hydref.
Mae'n wynebu nifer o gyhuddiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012
