Cwestiynau dros wariant addysg
- Cyhoeddwyd

Mae yna bryderon y gallai rhai cynlluniau i wella safonau mewn ysgolion golli miliynau o bunnau er mwyn cyllido un o bolisiau newydd Llywodraeth Cymru.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai 40 o ysgolion yn rhan o gynllun Her Ysgolion Cymru i wella safonau dysgu ac addysgu.
Mae'r cynllun yn werth £20m.
Mae £12m wedi ei glustnodi o'r arian ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU.
Mae hynny'n golygu bod angen £8m o gyllideb addysg Cymru.
'Tryloyw'
Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, fe ddaw £5m o'r arian hynny o dri chynllun, y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion, y Grant Llwyddiant Grwpiau Ethnig Lleiafrifol a'r Grant Rhwydwaith 14-19.
Mae Mr Thomas yn feirniadol o'r llywodraeth am gynnig toriadau yn ystod yr haf "pan nad oes modd gorfodi gweinidogion i fod yn atebol am eu gweithredoedd yn y Cynulliad."
Dywedodd llefarydd fod Llywodraeth Cymru "wedi bod yn gwbl dryloyw ynghylch y sefyllfa ariannol heriol rydyn ni'n ei hwynebu...
"I fod yn glir, mae'r pecyn £20m gyhoeddwyd ar gyfer Her Ysgolion Cymru'n cynnwys y £12.1m glustnodwyd gan y Gweinidog Cyllid fel rhan o'n hymateb i Ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU.
"Rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych ar ba gyllidebau adrannol ellid eu defnyddio i gefnogi cynllun Her Ysgolion Cymru. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn ail gyllideb atodol 2014-15."
'Toriad ar ôl toriad'
Mae undebau athrawon yn bryderus am oblygiadau'r toriadau i ysgolion.
Dywedodd Robin Hughes, ysgrifennydd undeb ASCL Cymru fod cyfyngiadau ariannol yn effeithio ar holl wasanaethau cyhoeddus Cymru gan gynnwys ysgolion:
"Mae gweithio i godi safonau pan mae toriad ar ôl toriad mewn cyllid yn anodd.
"Mae'n anos fyth pan mae'r swyddogion yn ymddangos yn amharod i siarad yn glir am wir gost y toriadau sy'n cael eu hystyried."