Rhaglen Mesur Plant yn 'peri pryder'
- Cyhoeddwyd

Mae 29% o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru'n ordrwm neu'n ordew, o'i gymharu â 21% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae dros chwarter y plant sy'n bump oed yng Nghymru â Mynegai Màs y Corff afiach o'i gymharu ag ychydig dros un rhan o bump o blant pump oed yn Lloegr, yn ôl adroddiad.
O'r 26% o blant gyda Mynegai Màs y Corff afiach, roedd 11.3% yn ordew.
Roedd canran plant gordrwm a gordew yng Nghymru ar ei uchaf ym Merthyr Tudful (34%), Gwynedd a Phen-y-bont ar Ogwr (y ddau'n 30%) ac yn isaf yn Sir Fynwy (21%) a Bro Morgannwg (22%).
Mesurwyd 29,238 o blant ar gyfer ail adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant - rhaglen wyliadwriaeth genedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Taldra a phwysau
Mae'r rhaglen yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan dimau iechyd ysgolion ar daldra a phwysau plant ym mlynyddoedd derbyn yng Nghymru.
Mae ffigurau 2011/12 yn dangos canlyniadau tebyg gyda 28% o blant yn ordrwm neu ordew.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan mai ond ail flwyddyn y rhaglen yw hon, mae'n rhy gynnar i ystyried unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn rhai arwyddocaol.
Dywedodd Linda Bailey, ymgynghorydd mewn iechyd y cyhoedd i Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae canfyddiadau'r Rhaglen Mesur Plant yn peri pryder ond gan ein bod yn edrych ar blant pump oed, mae'n rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef.
"Fel gyda'r rhan fwyaf o beryglon iechyd, cyntaf yn y byd y cân nhw eu taclo, hawsaf yn y byd yw hi i ddelio â nhw a mwyaf yn y byd fydd y manteision tymor hir".
'Gwrthdroi'r tueddiad'
Dangosodd yr adroddiad hefyd fod 29% o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru'n ordrwm neu'n ordew, o'i gymharu â 21% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ychwanegodd Linda Bailey: "Mae'r gwahaniaeth yn y lefelau gordewdra mewn plant sy'n byw mewn ardaloedd sydd â'r lefelau amddifadedd uchaf o'i gymharu â'r lefelau amddifadedd isaf yn peri gofid ac mae angen rhoi sylw brys i hyn.
"Mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei daclo yn awr gan bob sector yn y gymdeithas fel y gall plant fynd yn eu blaen i fyw bywydau iach hyd eu hoedolaeth a gwrthdroi'r tueddiad yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2014

- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2014
