Effaith diwygiadau lles yn codi pryderon
- Cyhoeddwyd

Dywed yr adroddiad bod y problemau'n gallu bod yn waeth mewn ardaloedd gwledig
Mae adroddiad newydd yn codi pryderon am yr effaith y mai diwygiadau i fudd-daliadau'n eu cael ar blant a theuluoedd yng Nghymru.
Daw'r adroddiad o ganlyniad i waith ymchwil gan yr elusen Plant yng Nghymru, ac mae'n cynnwys pryderon gafodd eu codi gan deuluoedd gydag aelodau seneddol, aelodau cynulliad a swyddfeydd Cyngor Ar Bopeth ar draws y wlad.
Fe ddywed yr adroddiad bod y problemau yn gallu bod yn waeth i deuluoedd mewn ardaloedd gwledig.
Ymhlith y pryderon sy'n cael eu codi mae :-
Problemau yn sgil dileu'r cymhorthdal ystafell wely sbâr, neu'r 'dreth ystafelloedd gwely', yn enwedig yn achos teuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle mae un plentyn neu fwy yn anabl;
Oedi gyda thaliadau oherwydd y newidiadau i'r broses asesu ac apelio;
Cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, sydd mewn llawer o achosion yn gysylltiedig â diwygio lles ac oedi gyda thaliadau budd-dal;
Diffyg gwybodaeth am y newidiadau i'r system fudd-daliadau a chronfeydd megis y Gronfa Cymorth Dewisol, a allai gynorthwyo pobl sy'n byw mewn caledi;
Problemau oherwydd diffyg hyblygrwydd wrth orfodi sancsiynau ar y rhai sy'n hawlio budd-daliadau. Mae budd-daliadau teuluoedd yn cael eu cwtogi os ydyn nhw'n hwyr i apwyntiadau mewn canolfannau gwaith neu os nad ydynt mewn sefyllfa i chwilio'n llawn am swyddi, o bosib oherwydd nad ydynt yn gallu cyrchu'r rhyngrwyd.
Mae'r adroddiad yn galw am gynnydd yn nifer y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i liniaru effaith tlodi yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
'Cipolwg trawiadol'
Dywedodd Catriona Williams OBE, prif weithredwr elusen Plant yng Nghymru:
"Mae'r adroddiad hwn yn gipolwg trawiadol dros ben o effaith wirioneddol y sefyllfa ariannol sydd ohoni ar deuluoedd sydd â phlant yng Nghymru.
"Mae'n dangos yn eglur yr effeithiau a welwyd yn sgil newid budd-daliadau a chyflwyno'r 'dreth ystafelloedd gwely'. Yn ein barn ni, mae angen diwygio'r system les eto, fel ei bod yn gallu cynnal y teuluoedd sy'n wynebu'r angen mwyaf.
"Mae angen mynd i'r afael ar frys â phroblem oedi gyda thaliadau budd-dal.
"Rhaid i'r llywodraeth, ar lefel ganolog a lleol, sicrhau bod gwasanaethau ar gael i'r teuluoedd sy'n dioddef yr effaith fwyaf.
"Gwaethygir y problemau mewn ardaloedd gwledig lle mae teuluoedd yn wynebu costau gofal plant uwch, costau tanwydd uwch, a lefel uwch o dai annigonol.
"Rydym wedi clywed am deuluoedd mewn ardaloedd gwledig sy'n gorfod cerdded milltiroedd i fanciau bwyd oherwydd diffyg trafnidiaeth, ac am deuluoedd sydd wedi dioddef sancsiynau i'w budd-daliadau oherwydd nad ydynt yn gallu cyrchu'r rhyngrwyd i chwilio'n ddigonol am swyddi."
Gellir gweld yr adroddiad - 'Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru - ar wefan Plant yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd30 Mai 2014

- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2014
