Penfro: Prif weithredwr yn cymryd cyfnod o seibiant
- Cyhoeddwyd

Bryn Parry Jones - cyfnod o seibiant
Mae Bryn Parry-Jones, prif weithredwr Cyngor Sir Penfro, wedi cymryd cyfnod o seibiant o'i waith, gan ddechrau ar unwaith.
Gwnaed y cyhoeddiad gan y cynghorydd Jamie Adams, arweinydd y cyngor.
Mae Mr Parry Jones wedi bod yn destun sylw am daliadau pensiwn i'w gyflog - taliadau oedd yn anghyfreithlon yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae Heddlu Sir Gaerloyw yn ymchwilio i'r mater.
"Gwnaed y penderfyniad er budd yr Awdurdod a hynny ar ôl cytundeb rhyngddon ni a Mr Parry Jones," meddai Mr Adams.
Ychwanegodd fod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd dyfalu ynglŷn â sefyllfa'r prif weithredwr.
"Bydd dim mwy o sylwadau ar y mater," meddai Mr Adams.
Ym mis Ionawr penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru bod taliadau pensiwn gafodd eu talu yn uniongyrchol i gyflog Mr Parry Jones ac un swyddog arall, sydd heb ei enwi, yn anghyfreithlon.
Roedd y ddau wedi derbyn taliadau pensiwn yn uniongyrchol er mwyn osgoi trethi.
Arweiniodd y penderfyniad at ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw.
Ail ymchwiliad
Ym mis Mai daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi'u cyflawni mewn cysylltiad â thaliadau i'r swyddogion.
Yna fis diwethaf cyhoeddodd yr heddlu bod tystiolaeth newydd wedi dod i'r fei a'u bod am gynnal ail ymchwiliad.
Roedd y cyngor wedi galw ar Mr Parry Jones, a'r swyddog sydd heb ei enwi, i dalu'r arian - sydd yn fwy na £45,000 - yn ôl.
Fe wrthododd y prif weithredwr â gwneud hynny, a phleidleisiodd y cyngor i beidio â chymryd camau pellach i'w orfodi i ad-dalu'r arian.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y cynghorydd Stephen Joseph benderfynu gadael y grŵp sy'n rheoli'r cyngor - Grŵp Annibynnol Plws (GAP) - yn sgil y penderfyniad i beidio â chymryd camau pellach.
Ar Awst 8 fe wnaeth rhai o weithwyr Cyngor Sir Penfro gerdded allan o'r gwaith mewn protest am y taliadau anghyfreithlon.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau y bydd Mr Parry Jones yn derbyn cyflog llawn tra bydd yn cymryd cyfnod o seibiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd7 Awst 2014

- Cyhoeddwyd6 Mai 2014

- Cyhoeddwyd1 Mai 2014

- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
