Toriadau Sir y Fflint: Barn trigolion
- Cyhoeddwyd

Gallai'r cyngor wynebu rhwng 1.5 a 4.5% o doriadau yn ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf
Wrth i Gyngor Sir y Fflint geisio gwneud arbedion, mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei lansio i ganfod barn trigolion am wasanaethau lleol y cyngor a sut y dylid eu diogelu.
Gallai'r cyngor wynebu rhwng 1.5 a 4.5% o doriadau yn ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Byddai toriad o 1.5% yn golygu dod o hyd i £12 miliwn i lenwi'r bwlch, a byddai toriad o 4.5% yn golygu arbedion o £18 miliwn.
Nawr, mae'r cyngor yn gofyn i drigolion ydyn nhw'n cytuno â'u cynlluniau, ac yn cefnogi'r dewisiadau y bydd angen eu gwneud er mwyn arbed arian.
Safbwyntiau a barn
Yn ôl y cyngor, mae'r 'Sgwrs Fawr am Gyllideb' - sydd ar agor i bawb yn y sir - yn gyfle i bobl roi eu safbwyntiau a'u barn.
Yn rhan o'r ymgynghoriad, fe fydd y cyngor yn manylu ar bynciau yn cynnwys:
Blaenoriaethu rhai gwasanaethau dros eraill;
Lleihau neu hyd yn oed stopio rhai gwasanaethau;
Disgwyl i bobl deithio ymhellach i gael gwasanaethau,
Disgwyl i bobl dalu mwy am wasanaethau lle codir tâl amdanynt ar hyn o bryd;
Cyflwyno taliadau newydd ar gyfer gwasanaethau sydd am ddim ar hyn o bryd.
Bydd holl wasanaethau'r cyngor dan y chwyddwydr, gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a gwasanaethau casglu gwastraff.
'Dewisiadau mawr'
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
"Yn y Sgwrs Fawr am Gyllideb, rydym yn nodi'r risgiau cynyddol i wasanaethau lleol oherwydd y toriadau yn y gyllideb genedlaethol ac yn disgrifio'r olygfa ar gyfer y dewisiadau mawr y bydd rhaid i Gyngor Sir y Fflint eu gwneud ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r blynyddoedd i ddod."
"Rydym hefyd yn esbonio sut a phryd rydym yn bwriadu cynnal trafodaeth gyhoeddus ar y dewisiadau hynny a sut y gall cymunedau a sefydliadau lleol ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
"Ceir dau gyfle i drigolion ymuno â'r drafodaeth ac mae'n bwysig bod pawb yn cael rhoi eu barn."