Prif weithredwr maes awyr Caerdydd yn gadael ei swydd
- Cyhoeddwyd

Bydd Prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Jon Horne yn gadael ei swydd ar 1 Medi.
Cafodd Mr Horne ei benodi wythnos ar ôl i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr am £ 52m ym mis Mawrth 2013.
Roedd eisoes wedi bod yn rheolwr gyfarwyddwr ar y maes awyr rhwng 2001-2007, cyn iddo symud i swyddi eraill yn y diwydiant awyrennau.
Bydd Debra Barber, sy'n gyfarwyddwr gweithredol y maes awyr yn cael ei phenodi yn rheolwr gyfarwyddwr dros dro.
Ym mis Mawrth eleni, gwelodd y maes awyr gynnydd o 9% yn nifer y teithwyr, flwyddyn ers iddo gael ei gymryd drosodd gan y llywodraeth.
Dywedodd Cadeirydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf. Yr Arglwydd Rowe-Beddoe fod Mr Horne wedi bod "yn llwyddiannus iawn yn llywio'r maes awyr trwy'r cyfnod cyntaf ein llwybr i ail-sefydlu ei ffawd".