Vokes yn rhoi gobaith i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Sam Vokes wedi sgorio chwe gôl mewn 31 ymddangosiad i Gymru
Mae ymosodwr Burnley a Chymru, Sam Vokes, wedi dweud y gallai fod yn holliach ar gyfer y ddwy gêm rhagbrofol yng nghystadleuaeth Euro 2016 fis nesaf.
Nid yw'r chwaraewr 24 oed wedi chwarae i'w glwb na'i wlad ers cael anaf difrifol i'r ben-glin ym mis Mawrth.
Enillodd Cymru'r gêm rhagbrofol gyntaf 2-1 yn erbyn Andorra, ac mae Vokes yn gobeithio bod nôl ar gyfer y gemau yn erbyn Bosnia-Hercegovina a Cyprus.
Mae prinder ymosodwyr wedi gorfodi'r rheolwr Chris Coleman i wneud newidiadau i'r tîm.
Dywedodd Vokes: "Os ydw i nôl yn chwarae gemau, fe fyddwn i wrth fy modd bod yn rhan o'r gemau nesaf.
"Dydw i ddim am roi pwysau arnaf fi fy hun - mae nifer o gamau i'w cymryd cyn y gallaf ddweud fy mod yn holliach."
Bydd Cymru'n croesawu Bosnia-Hercegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 10 Hydref, ac yna Cyprus i'r un stadiwm dridiau yn ddiweddarach.
Ymunodd Vokes â'r garfan yn Andorra wrth iddo barhau i wella o'i anaf.
Rhwygodd cyn chwaraewr Wolves dennyn yn ei ben-glin wrth i Burnley golli i Gaerlŷr o 2-0 yn y Bencampwriaeth ym mis Mawrth.
Ychwanegodd Vokes: "Mae wedi bod yn araf - bron bum mis a hanner erbyn hyn - ond mae e wedi gwella ac rwy' nôl yn rhedeg a gweithio'n galed ar wair. Mae'n gwella bob dydd.
"Dwi'n rhedeg yn syth yn iawn, ac rwy'n gweithio nawr ar droi'n gyflym, sef y flaenoriaeth gydag anafiadau pen-glin.
"Mae'n fater o weld sut mae'r ben-glin yn ymateb bob dydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014
