FIFA: Cymru yn codi yn rhestr detholion
- Cyhoeddwyd

Gareth Bale yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Andorra
Mae corff rheoli pêl-droed y byd, FIFA, newydd gyhoeddi'r rhestr detholion, dolen allanol diweddaraf, ac mae Cymru wedi codi 12 lle yn y tabl.
Mae tîm Chris Coleman bellach yn gydradd 29ain - yn gyfartal gyda'r Alban.
Hwn yw eu safle uchaf ers ugain mlynedd.
Daw'r newyddion yn sgil buddugoliaeth Cymru oddi cartref yn erbyn Andorra ar 9 Medi yng ngemau rhagbrofol Ewro 2016.
Dwy gôl gan Gareth Bale wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth ar ôl i Andorra fynd ar y blaen yn dilyn cic o'r smotyn.
Mae Bosnia-Herzegovina, sydd yn yr un grŵp â Chymru, wedi disgyn chwe safle yn y rhestr detholion, ac maen nhw bellach yn rhif 25, ar ôl colli gartef i Gyprus, sydd wedi codi 55 safle i rif 85.
Bydd Cymru'n croesawu Bosnia-Herzegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 10 Hydref, ac yna Cyprus i'r un stadiwm dridiau yn ddiweddarach.