Cyngor yn trafod dyfodol prif weithredwr
- Cyhoeddwyd

Gallai prif weithredwr Cyngor Sir Penfro gael ei wahardd o'i waith wedi cyfarfod pwyllgor disgyblu ddydd Gwener.
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cynnig diffyg hyder yn Bryn Parry-Jones yr wythnos diwethaf ar ôl ffrae am arian a dderbyniodd yn lle cyfraniadau pensiwn.
Bydd y pwyllgor yn trafod materion yn ymwneud ag ymddygiad, ymddiriedaeth a hyder yn y prif weithredwr.
Mae gan y pwyllgor, sydd ag 15 o aelodau, y pŵer i orchymyn ei atal dros dro ar unwaith.
Yn y bleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Parry-Jones roedd 46 o gynghorwyr yn cefnogi'r cynnig gyda thri yn ei gefnogi a thri yn ymatal eu pleidlais.
Taliadau treth
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu fod cynghorau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry-Jones, ac uwch swyddog arall yn Sir Benfro a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin Mark James, ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.
Mae ymchwiliad Heddlu Sir Gaerloyw wedi methu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu unrhyw drosedd.
Ond mae ymchwiliad heddlu newydd wedi dechrau ar ôl darganfod gwybodaeth newydd.
Ym mis Gorffennaf dywedodd Cyngor Sir Penfro na fyddan nhw'n cymryd unrhyw gamau pellach i adennill yr arian a dalwyd i Mr Parry-Jones ac i'r uwch swyddog arall dan sylw.
Mae staff y cyngor eisoes wedi cerdded allan mewn protest yn erbyn Mr Parry-Jones.