Cyrch cocên: Cyhuddo pedwar dyn
- Cyhoeddwyd

Swyddogion llynges Iwerddon gyda thunnell o gocen gwerth £100 miliwn
Mae pedwar dyn wedi ymddangos ger bron llys i wynebu cyhuddiad o smyglo cocên i Brydain, yn ôl yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.
Cafodd y dynion eu harestio ar ôl i swyddogion ddod o hyd i dunnell o gocên ar gwch cannoedd o filltiroedd o arfordir Iwerddon.
Mae cwch wedi cael ei gymryd o farina Pwllheli gan swyddogion yr Asiantaeth Troseddau fel rhan o'r ymchwiliad.

Fe gymerwyd y Sea Breeze o farina Pwllheli ac mae'n cael ei archwilio mewn lleoliad arall
Cyhuddwyd Stephen Powell, 47 oed o Guisley, Leeds, o gynllwynio i fewnforio cocên. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ar ol ymddangos ger bron ynadon Leeds.
Bu tri dyn arall ger bron llys yn Cork nos Wener wedi eu cyhuddo o fod a chocên yn eu meddiant gyda'r bwriad o fewnforio'r cyffur. Gorchmynnwyd cadw John Powell o Orllewin Swydd Efrog, Benjamin Mellor o Bradford, a Thomas Britteon o Grimsby, yn y ddalfa.

Llynges Iwerddon yn hebrwng y Makayabell yn yr Iwerydd
Ddydd Mawrth roedd awdurdodau Iwerddon, Ffrainc a Feneswela wedi mynd ar fwrdd cwch o'r enw Makayabella a darganfod tunnell o gocên oedd werth £100 miliwn.
Roedd y Makayabella ryw 300 milltir i'r de-orllewin o arfordir Iwerddon ar y pryd.
Yn ôl ffynonellau o'r lluoedd diogelwch, roedd y cwch wedi dod yr holl ffordd o Feneswela a'r nod oedd glanio'r cyffuriau ar arfordir gogledd Cymru.