Apêl i adolygu dedfryd Michael Pearce fis nesa'
- Cyhoeddwyd

Bydd dedfryd dyn a gafodd ei garcharu am ladd babi chwe wythnos oed yn cael ei hadolygu yn y Llys Apêl fis nesa', wedi cwynion nad yw naw mlynedd dan glo yn ddigon llym.
Cafodd Michael Pearce, 33, o Nelson, Caerffili, ei garcharu am ddynladdiad Alfie Sullock, mab ei gariad.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Cyffredinol Robert Buckland yr achos i'r Llys Apêl yn Llundain o dan gynllun i ystyried a yw dedfrydau'n ddigonol ai peidio.
Bydd yr apêl yn digwydd ar 8 Hydref.
Clywodd yr achos yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Awst fod Alfie wedi cael ei daro gydag esgid a photel blastig tra bod ei fam, Donna Sullock, o Gaerdydd, ar noson allan am y tro cynta' ers rhoi genedigaeth.
Roedd Pearce a Ms Sullock wedi dod yn ffrindiau tra roedd hi'n feichiog, gan ddod yn gariadon yn ddiweddarach.
Roedd Pearce, sy'n fab i ynad, wedi gwadu llofruddiaeth a dynladdiad ond cafodd ei ganfod yn euog o ddynladdiad wedi i'r rheithgor ystyried am 36 awr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2014
