Galw am ymddiheuriad gan Gomisiynydd
- Cyhoeddwyd

Christopher Salmon yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys
Mae cyn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yr ardal i ystyried ei sefyllfa yn dilyn ffrae am gynllun y blaid Lafur i ddiddymu Comisiynwyr Heddlu.
Cafodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Ceidwadol Dyfed Powys, ei gyhuddo o "bardduo enw da" cyn aelodau o'r awdurdod a heddluoedd.
Mewn datganiad i'r wasg am gynlluniau Llafur, mae Mr Salmon yn cyhuddo'r Ysgrifennydd Cartref Cysgodol, Yvette Cooper AS, o "geisio mynd ag atebolrwydd yr heddlu i fyd tywyll cytundebau 'stafell gefn rhwng prif gwnstabliaid a chynghorwyr lleol..." gyda'i hymrwymiad i ddiddymu'r swyddi pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ond mae sylwadau Mr Salmon wedi arwain at ymateb ffyrnig gan gyn aelod o Awdurdod heddlu Dyfed Powys sydd hefyd yn Is-Gadeirydd y panel heddlu a throsedd presennol.
Ymddiheuriad
Mae cynghorydd Plaid Cymru Alun Lloyd Jones wedi mynnu "ymddiheuriad cyhoeddus" gan gyhuddo Mr Salmon o gyhoeddi "datganiad enllibus" am gyn aelodau'r awdurdod, gan ddisgrifio'r datganiad i'r wasg fel "annoeth a niweidiol".
Ychwanegodd Mr Lloyd Jones ei fod am godi'r mater yn y cyfarfod nesaf o Banel Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.
Ond mae Mr Salmon yn dal ei dir gan ddweud nad oes rheswm iddo ymddiheuro. Dywedodd:
"Rwy'n deall teimladau cryf y Cyng.Lloyd Jones fel cyn aelod o'r awdurdod gyda blynyddoedd o wasanaeth.
"Ond doedd Awdurdodau Heddlu, er gwaetha'u haelodau ymroddedig, ddim yn gallu dal yr heddlu i gyfrif yn iawn... roedd yr holl bleidiau gwleidyddol yn cytuno ar hynny.
"Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ar sut i redeg plismona. Rwy'n benderfynol o wneud cymunedau ar draws Dyfed Powys yn fwy diogel, cryfhau atebolrwydd a gwario'n ddarbodus.
"Rwy'n ariannu mwy o blismyn. Rwyf wedi herio'r defnydd o rybuddion heddlu, gan arwain at gwymp sylweddol, ac rwyf wedi rhoi diwedd i'r taliadau bonws o 7.5% oedd wedi eu cytuno rhwng yr hen awdurdod heddlu ag uwch swyddogion yr heddlu."
Bu'r cynghorydd Alun Lloyd Jones a Mr Salmon yn siarad gyda Newyddion 9.