Brighton 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Wedi i Brighton barhau i bwyso hyd ddiwedd y gêm, fe lwyddodd Caerdydd i sicrhau pwynt yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Un yr un oedd y sgôr derfynol.
Brighton sgoriodd gyntaf, wrth i Bruno rwydo wedi 20 munud.
Ond fe darodd Caerdydd yn ôl gwta funud wedi hynny - Kenwyne Jones yn sgorio i'r Adar Gleision.
Un yr un oedd hi ar yr hanner, ac felly y bu hi hyd y diwedd.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn codi i'r trydydd safle ar ddeg yn y Bencampwriaeth.