Cau ysbyty cymunedol: Refferedwm yn nhre'r Fflint
- Cyhoeddwyd

Yn y gorffennol, bu dros 1,000 yn protestio yn erbyn cau'r ysbyty
Bydd refferendwm yn cael ei gynnal ddydd Iau yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau ysbyty cymunedol Y Fflint.
Pwrpas y refferendwm, sy'n cael ei gynnal o 16:00-21:00 yn neuadd y dref, yw penderfynu adfer y gwasanaethau a gollwyd neu beidio.
Mi fydd y refferendwm yn gofyn: "Ydych chi'n cytuno y dylai gwlâu cleifion preswyl y GIG gael eu hailosod yn y Fflint?"
Caewyd yr ysbyty yn 2013 er gwaethaf galw mawr gan drigolion lleol i newid y penderfyniad. Yn ogystal â cholli gwlâu, caeodd yr uned fân anafiadau hefyd.
Cyn cau'r ysbyty, cafwyd protestiadau gan hyd at 1,000 o bobl ynghyd â deiseb ag arni 5,000 o enwau gafodd ei chyflwyno i'r gweinidog iechyd Mark Drakeford. Fis diwethaf, pleidleisiodd 750 o bobl dros gael refferendwm ar y mater.
Gwrthwynebu
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod cynlluniau newydd ar y gweill i adeiladu canolfan iechyd bwrpasol £5miliwn i'r Fflint "er mwyn sicrhau - nawr ac i'r dyfodol - bod gofal yn lleol ac wedi'i deilwra i anghenion cleifion yn ogystal â chwrdd â gofynion safonol."
Mae rhai gwrthwynebwyr yn feirniadol o'r cynlluniau am ei bod "yn ddim byd mwy na meddygfa deuluol gyda chlinig ynghlwm".
Y ddadl yw bydd rhaid i rhai cleifion ddal trên a bws cyn gallu derbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych.
Ni fydd y refferendwm yn cael ei gynnal yn yr un ffordd ag etholiad lawn neu isetholiad. Mae'r cyngor lleol yn cyfrannu £3,000 tuag at gost y refferendwm. Dywedodd Colin Everett, swyddog yr etholiad, mai dyma'r refferendwm cyntaf i ddigwydd yn Sir y Fflint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
