Canolfan 'Byd Mary Jones' wedi agor yn y Bala
- Cyhoeddwyd

'Mae diddordeb byd-eang yng nghanolfan newydd Byd Mary Jones'
I ddathlu 200 o flynyddoedd ers marwolaeth y Parch. Thomas Charles mae canolfan newydd ei gwedd gwerth £1 miliwn yn agor yn y Bala.
Canolfan ymwelwyr i goffau ac addysgu pobl am hanes Mary Jones a Thomas Charles fydd hon ar gyrion Llyn Tegid.
Cymdeithas y Beibl sy'n gyfrifol am agor y ganolfan.
Dywedodd Paul Woolley, cyfarwyddwr gweithredol y gymdeithas: "Nid yw naw allan o ddeg o bobl yn y DU yn defnyddio'r Beibl mewn unrhyw fath o ffordd. Mae'r gwaith ni'n ei wneud yn ymgais i alluogi pobl i gael cyfle i wneud."
'Byd Mary Jones' fydd canolfan gyntaf Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, yn yr eglwys sy'n orffwysle i Thomas Charles, sylfaenydd y Gymdeithas.
Meddai Mary Thomas, ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl: "Dwi'n hynod falch bod y ganolfan yn dychwelyd yma i'w gwreiddiau.

Mae llawer o waith wedi ei wneud y tu mewn i'r eglwys

Mae'r ganolfan yn cyfuno'r hen hefo atyniadau modern
"Fe gerddodd Mary Jones trwy'r Bala, a mynd o'r Bala i Lundain gwnaeth Thomas Charles i sefydlu'r gymdeithas yn y lle cyntaf."
Gwell defnydd
Mae'r eglwys wedi bod yn wag ers tro a cafodd deiseb 4,000 o lofnodion gan drigolion lleol er mwyn osgoi gwerthu'r adeilad i fusnes canŵio rhai blynyddoedd yn ôl.
Un o'r unigolion ynghlwm ar ddeiseb oedd Lona Puw, a ddywedodd: "Dwi'n gweld adeilad anhygoel yma lle bu pobl yn addoli am 1,500 o flynyddoedd.

Daeth cynrychiolwyr o dros y byd i'r Bala dros y penwythnos

Roedd croeso mawr i'r ganolfan yn y Bala ddydd Sul
"Mi feddyliais i mai dyma yw ein hunaniaeth ni a doedd dim posib i mi eistedd yn ôl. Roedd cynlluniau gyda ni ar y gweill i brynu'r capel, yna daeth galwad gan Cymdeithas y Beibl fel rhyw fath o ateb i weddi."
Y bwriad yw denu 10,000 o ymwelwyr i'r ganolfan yn flynyddol. Tasg Nerys Pritchard, Rheolwr Byd Mary Jones yw hon a dywedodd: "Rydym ni'n cynnig canolfan i bob gallu ac oed. Mae fideos, paneli a sgriniau rhyngweithiol gyda ni er mwyn annog plant a phobl ifanc i ymweld yn ogystal â sicrhau naws fodern."
Daeth yr arian i dalu am y ganolfan o werthu un o lawysgrifau'r Gymdeithas, yn ogystal a chyfraniadau gan unigolion a chymdeithasau Beiblaidd ar draws y byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014
