Marwolaeth babi: Mwy o brofion
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu y bydd angen rhagor o brofion yn dilyn post mortem i benderfynu ar achos marwolaeth babi o Sir Y Fflint.
Fe aed â'r babi tair wythnos oed i'r ysbyty ar ôl i barafeddygon gysylltu â'r heddlu am blentyn mewn "trafferthion " yn Nhreffynnon ar 30 Medi.
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un sydd heb ei hegluro.
Mae Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ar ran y crwner.
Dywedodd y ditectif arolygydd Simon Williams: "Fe gafodd archwiliad post mortem ei gynnal heddiw, ond bydd angen profion meddygol pellach a dehongliad cyn y bydd patholegydd yn gallu dweud beth oedd achos y farwolaeth.
"Hyd nes bod hynny yn digwydd a hyd tan bod ein hymchwiliadau wedi eu cwblhau, byddai'n amhriodol i ddweud dim byd pellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014
