Blackpool 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Zoko yn sgorio unig gôl y gêm
Caerdydd yw'r tîm cyntaf i golli yn erbyn Blackpool yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, yn dilyn gêm agos yn Bloomfield Road.
Roedd gan yr ymwelwyr dîm da ar bapur, ond ar gae gwair roedd y gêm yn cael ei chwarae ac fe fethodd eu chwaraewyr â phrofi eu gwerth.
Blackpool ddechreuodd orau gyda Ishmael Miller a Nathan Delfouneso yn dod yn agos.
Di-sgôr oedd hi ar yr hanner amser gyda'r gêm yno i'w hennill i ba bynnag dîm allai feddwl am fford di wneud.
Fe adawodd nifer o gefnogwyr y dynion oren ar ôl 53 munud mewn protest yn erbyn y ffordd mae'r cadeirydd dyn rhedeg eu clwb.
Mi fyddan nhw'n difaru achos fe sgoriodd Francois Zoko ddeng munud wedyn - unig gôl y gêm.
Cafodd Fabio ac Adam Le Fondre gyfleoedd da i'w gwneud hi yn gyfartal ond mi roedden nhw'n wastraffus o flaen y gôl.
Mae Caerdydd yn parhau yn 14eg yn y gynghrair, yn ddi-reolwr ac yn ddifflach.