Cyngor yn trafod cael gwared ag addysg i blant 3 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i ymgynghori eto ar gynllun i gael gwared ag addysg llawn amser i blant tair oed yn y sir.
Ar Twitter, fe ddywedodd aelodau o'r cyngor fod "penderfyniad wedi ei wneud ar eitem un ar yr agenda - a'r cabinet yn cytuno'n 'anfodlon' i ymgynghori ar y mater hwn".
Daw'r penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos hon fod y cyngor yn wynebu toriadau o 3.7% i'w gyllideb y flwyddyn nesa' - gan ostwng o £367.8m i £354.4m.
Fe geisiodd y cyngor newid oedran dechrau'r ysgol yn y sir y flwyddyn ddiwethaf, ond bu tro pedol wedi adolygiad barnwrol.
Ond yn ôl y cyngor diweddara' gan swyddogion, byddai'r newid yn gyfreithlon pe bai newidiadau'n cael eu gwneud i'r broses ymgynghori.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014
