Dathlu cysylltiad Caergybi â'r Iseldiroedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gofeb yn coffau sut y croesawodd Caergybi forwyr o'r Iseldiroedd yn 1940
Bydd cyswllt hanesyddol tref Caergybi â'r Iseldiroedd yn cael ei goffau gyda dadorchuddiad cofeb newydd.
Mae'r gofeb, sydd wedi ei wneud o garreg, efydd, derw a choncrid, yn coffau sut croesawodd Caergybi forwyr o'r Iseldiroedd lwyddodd i ddianc rhag y Natsïaid yn 1940 ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.
Cawson nhw eu lleoli yng Nghaergybi yn ystod y rhyfel a priododd 116 ohonynt ferched lleol felly mae enwau o'r Iseldiroedd yn dal i fod yn gyffredin yn y dref.
Priododd tad Graham Van Weert, Mathieu, ferch leol, Megan Parry, ac ymgartrefu yn y dref.
Dywedodd Mr Van Weert, sydd yn wirfoddolwr yn Amgueddfa Arforol Caergybi: "Mae'n beth hyfryd i'r dref ac mae'n braf gwybod bod yna dal i fod cysylltiad â'r Iseldiroedd ar ôl mwy na 70 o flynyddoedd."

Priododd tad Graham Van Weert, Mathieu, ferch leol yng Nghaergybi
Roedd ei dad, oedd o Maastricht, yn un o'r sawl o'r Iseldiroedd a ymgartrefodd yng Nghaergybi.
Daethant i Gymru ar nifer o longau ond doedd dim digon o le iddynt i gyd fyw ar y llongau felly mi wnaeth teuluoedd lleol roi lloches iddynt.
"Fe wnaeth pobl Caergybi eu croesawu," meddai Mr Van Weert. "Datblygodd perthnasau rhwng rhai o'r dynion a merched y dref ac o ganlyniad mae enwau fel Lowies, Geurtjens, Thijs a Friebel dal yn parhau yn y dref heddiw."
Mae Mr Van Weert yn ymweld â teulu ei dad yn yr Iseldiroedd o leia' unwaith y flwyddyn ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o'r Iseldiroedd fydd yn dod i Gaergybi ar gyfer seremoni dadorchuddio'r gofeb.
Bydd pobl yn ymgynnull ar gyfer y seremoni am 13:45 a bydd y dadorchuddio yn digwydd am 14:00.
Ar ddydd Sadwrn, bydd Diwrnod Teuluoedd Iseldiroedd yn cael ei gynnal o 10:00 yn Neuadd y Dref ac ar ddydd Sul bydd gwasanaeth coffa arbennig yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi, am 14:00.
Dywedodd J. Arwel Roberts, sydd yn gynghorydd lleol a hefyd yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Môn: "Mae'r cyswllt â'r Iseldiroedd yn rhan o'n treftadaeth a'n hanes yma yng Nghaergybi ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn dathlu hynny.
"Mae'r gofeb ysblennydd yn deyrnged addas i'r morwyr ac i'r croeso a gawsant yma yng Nghaergybi ac mae mewn man prydferth, yn edrych allan dros y môr, ac rydym am i bobl aros ac eistedd yno a'i fwynhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014
