Sheffield United: Wedi trafod Ched Evans
- Cyhoeddwyd

Cafodd Evans, 25 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar wedi i reithgor ei gael yn euog o drais ym mis Ebrill 2012.
Mae rheolwr clwb pêl-droed Sheffield United, Nigel Clough, wedi dweud ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda swyddogion y clwb ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd Ched Evans yn dychwelyd i chwarae i'r tîm wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Cafodd Evans, 25 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar wedi i reithgor ei gael yn euog o drais ym mis Ebrill 2012.
Mae disgwyl i'r chwaraewr gael ei ryddhau o'r carchar wythnos yma.
Dywedodd Clough wrth BBC Radio Sheffield: "Rydan ni wedi trafod y mater a'r perchnogion fydd yn penderfynu.
"Mae'n fater sydd uwchben lefel pêl-droed. Os yw'n dychwelyd byddwn ni (staff hyfforddi) yn penderfynu os y bydd yn chwarae ai peidio."
Roedd Evans, sy'n parhau i honni ei fod yn ddi-euog, yn chwarae i Sheffield United pan aeth i'r carchar.
Penderfynodd y clwb beidio â diswyddo Evans, gan yn hytrach beidio ag adnewyddu ei gytundeb pan ddaeth i ben ym mis Mehefin 2012.
Mae dros 90,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y clwb i beidio ag ail-arwyddo'r chwaraewr.
Ond, dywedodd pennaeth Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor, y dylai Evans gael yr hawl i chwarae pêl-droed eto unwaith iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd27 Awst 2014

- Cyhoeddwyd13 Awst 2014

- Cyhoeddwyd30 Mai 2012

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012
