Colli dros 100 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau y bydd dros 100 o swyddi yn cael eu colli yng Nghymru.
Bydd 14 o swyddfeydd yn cau ar draws Prydain, gan gynnwys y swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful a Phenfro.
Bydd y swyddfeydd yn cau erbyn diwedd mis Rhagfyr gan effeithio ar 27 o weithwyr yng Nghaerfyrddin, 38 o weithwyr ym Mae Colwyn, 34 o weithwyr ym Merthyr Tudful a dau o weithwyr ym Mhenfro.
Yn ogystal bydd 53 o weithwyr - pedwar ym Mhorthmadog, 20 yn Wrecsam a 29 yng Nghaerdydd - yn cael cynnig pecynnau diswyddo gwirfoddol.