37% yn llai o swyddogion carchar yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y swyddogion carchar sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ei gwtogi 37% mewn llai na phedair blynedd, yn ôl ffigyrau Cynghrair Howard.
Mae niferoedd wedi gostwng o 505 i 320 yma, yn ôl y ffigyrau.
Yng Nghaerdydd yn unig, mae nifer y swyddogion wedi gostwng 40% - 107 yn llai.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhuddo'r Gynghrair o "gamarwain y cyhoedd".
Yn ôl gwaith ymchwil yr elusen, 14,170 o swyddogion oedd yn gweithio mewn carchardai cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ddiwedd Mehefin 2014.
Roedd 'na fwy na 24,000 ddiwedd Awst 2010.
Mae hyn yn cynnwys 1,375 o swyddi cafodd eu colli pan gaeodd 15 o garchardai yn ystod y cyfnod.
'Mewn argyfwng'
Fe ddywedodd Frances Cook, prif weithredwr Cynghrair Howard: "Mae'r system garchar mewn argyfwng, ac mae'r ffigyrau hyn yn datgelu'r rheswm am hynny.
"Wrth i boblogaeth carchardai gynyddu, mae nifer y swyddogion wedi ei gwtogi heb falio dim am y goblygiadau".
Ychwanegodd mai'r unig ateb yw edrych ar y bobl sy'n cael eu hanfon i'r carchar - beth yw eu trosedd? Oes angen iddyn nhw fod yno?
"Mae'n rhaid i ni leihau maint poblogaeth carchardai," meddai.
'Ymrwymiad'
Fodd bynnag, mae llywodraeth San Steffan wedi gwrthod derbyn canfyddiadau'r gwaith ymchwil.
"Mae tu hwnt i mi, pam fyddai Cynghrair Howard eisiau camarwain y cyhoedd yn fwriadol am gyflwr ein carchardai," meddai'r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous.
"Mae 'na lai o or-boblogi ac maen nhw'n cael eu rhedeg yn dda, oherwydd ymrwymiad y staff gweithgar. Dyw ceisio dadlau i'r gwrthwyneb yn gyson yn helpu neb.
"'Dy ni'n cynnal ymgyrch recriwtio ar y funud, ac yn sefydlu llu o staff ychwanegol i weithio pan fo'r angen."
Daw sylwadau'r gweinidog wrth i'r adran ddechrau cynllun i adeiladu carchar mwya'r DU yn Wrecsam.
Fe fydd y carchar £250 miliwn yn dal 2,000 o garcharorion.