Disgyblion tlawd Cymru 'ar ei hôl hi'
- Cyhoeddwyd

Mae disgyblion tlawd yng Nghymru "ar ei hôl hi" i gymharu â rhannau eraill Prydain, a hynny yn ôl comisiwn tlodi plant a symudoledd cymdeithasol llywodraeth y DU.
Yn ôl y comisiwn dim ond 26% o blant Cymru sy'n derbyn cinio ysgol am ddim sy'n llwyddo i gael pump TGAU da, a hynny i'w gymharu â 38% yn Lloegr.
Dywedodd y comisiwn bod bron i hanner o blant tair oed mewn ardaloedd difreintiedig yn methu gwneud y cynnydd disgwyliedig.
Galwodd y comisiwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ffordd o fesur "parodrwydd am yr ysgol" i blant pump oed.
Argymhellion
Mae adroddiad blynyddol y comisiwn, sydd wedi'i gadeirio gan y cyn-weinidog Llafur, Alan Milburn, wedi pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad plant tlawd yn gwahanol wledydd y DU.
Yn ôl yr adroddiad, mae'r gyfradd sy'n parhau i addysg uwch yng Nghymru yn 35.3%, 5% yn is na Lloegr a 10% yn is na'r Alban.
Mae'r argymhellion ar gyfer Cymru yn cynnwys:
Dull o fesur "parodrwydd am yr ysgol" plant pump oed.
Cynlluniau ar gyfer gwerthusiad mwy trwyadl o'u heffeithiau.
Canolbwyntio mwy ar rifedd a llythrennedd wrth ddarparu gofal plant.
Gwella'r drefn o gasglu data ar gynnydd plant yn ystod blynyddoedd cynnar.
Ond derbyniodd cynllun Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru glod am barhau "i wneud gwahaniaeth i deuluoedd yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru".