Dadorchuddio cofeb i ferched Byddin y Tir
- Cyhoeddwyd

Roedd cyfraniad Byddin y Tir yn fawr tuag at yr ymdrech ryfel
Bydd cofeb i anrhydeddu cyfraniad menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei dadorchuddio yn yr Arboretum Coffadwriaethol Genedlaethol, yn Sir Stafford.
Undeb Bwyd a Ffermio Menywod Sir Stafford sydd wedi ariannu'r cerflun efydd.
Roedd menywod yn gweithio ar ffermydd, mewn swyddi a fyddai'n cael eu gwneud gan ddynion cyn y rhyfel, ac roeddent yn rhan allweddol o sicrhau fod y wlad yn hunangynhaliol wrth i longau nwyddau o'r Unol Daleithiau gael eu suddo gan longau tanfor yr Almaen.
Mae Mary Bott, 90, cyn aelod o Fyddin y Tir, yn mynychu'r dadorchuddiad.
Bu hi'n gweithio yng Nghymru yn ystod y rhyfel.
"Roedd gwaith Byddin y Tir yn bwysig am ein bod ni'n rhyddhau dynion i fynd i'r fyddin ac yn cynhyrchu bwyd.
"Roedd llongau'n methu dod â bwyd mewn i'r wlad. Roedd hi'n angenrheidiol ein bod ni'n cynhyrchu mwy o fwyd. Rydw i'n teimlo fy mod wedi gwneud fy rhan."
Cafodd Mary ei gyrru i fferm Brynrefail yn Llangeitho. Roedd hi'n wreiddiol o Lundain ac yn cyfaddef nad oedd yn gwybod unrhyw beth am y diwydiant ffermio cyn hynny.

Mae Mary Bott yn mynychu Gerddi Coffau Cenedlaethol i weld y gofeb
'Newydd, hollol wahanol'
Roedd hi'n un o filoedd o ferched gafodd eu galw i weithio ym Myddin y Tir gan fynd ati i gwblhau tasgau ar ffermydd tra roedd y dynion i ffwrdd. Roedd y gwaith yn cynnwys godro, gofalu am stoc a chasglu'r cynhaeaf.
"Roedd yn rhywbeth newydd, hollol wahanol i mi. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth. Roedd mam yn ferch ffarm, yn un o ddeg o blant.
"Rhoddodd hi chwech mis i fi, ond mi safes i ddwy flynedd.
"Dwi'n cofio un noson, roeddwn i'n meddwl bo' un o'r gwartheg wedi bennu rhoi llaeth felly 'nes i dynnu'r peiriant oddi wrthi. Wel ges i gic, bron 'mod i mas trwy ddrws y beudy.
"Fe ddywedodd y ffermwr bod y fuwch yn nerfus iawn am nad oedd hi wedi bod ar y peiriant ddigon. Wel fi oedd yn nerfus wedyn."
Fe dderbyniodd Mary Bott fedal a llythyr o ddiolch ar ddiwedd y Rhyfel.
Rhy hwyr?
Mae'r gofeb yn dod bron i 70 mlynedd yn ddiweddarach.
Meddai Mary Bott: "Dylai'r gofeb fod wedi cael ei chodi ugain mlynedd yn ôl.
"Dwi'n 90 wythnos yma a mae amryw o'r merched oedd yn gweithio ar y tir wedi hen fynd.
"Ond dwi yn falch bo nhw'n meddwl gwneud rhywbeth.
"Roedd amryw o ferched wedi gorfod gadael eu cartrefi ac roedd yn fyd gwahanol i lawer iawn ohonom ni."

Roedd yn rhaid i nifer o'r merched ddysgu sgiliau newydd