Gwyntoedd o 70mya yn taro arfordir Cymru
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i weithwyr glirio coeden oedd wedi syrthio ar y B5109 rhwng Bodedern a Threfor yn Sir Fôn (Llun Wyn Evans)
Mae dros 150 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb gyflenwad trydan wrth i wyntoedd cryf effeithio ar rannau o Gymru.
Ar un adeg roedd dros 400 o gartefi heb drydan yn siroedd Mynwy, Powys, Ceredigion a Rhondda Cynon Taf.
Roedd problemau hefyd ar y ffyrdd.
Dywedodd llefarydd ar ran Western Power, dolen allanol bod tua 50 o dai yn ardal Y Fenni heb gyflenwad, gyda chyfanswm o dros 150 wedi eu heffeithio yn sir Fynwy.
Cafodd gwyntoedd o 70 milltir yr awr eu recordio yn Aberdaron, a 67 mya yn y Mwmbwls.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer dydd Mawrth
Daw'r tywydd garw wrth i weddillion Corwynt Gonzalo gyrraedd y DU dros nos.
Mae rhai gwasanaethau fferi rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo ac mae maes awyr Heathrow yn disgwyl y bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo tua 10% o'u hediadau.
Oherwydd llifogydd bu'n rhaid i deithwyr trên gael eu cludo gan fysiau rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog.
Hefyd roedd cyfyngiadau cyflymder ar yr A55 dros Bont Britannia rhwng Môn a Gwynedd, ac ar ddarn 50 milltir o hyd o'r M4 rhwng Caerdydd (cyffordd 30) a Phont Abraham, Sir Gaerfyrddin (cyffordd 49).
Roedd un lôn o'r M48, yr hen Bont Hafren, ynghau.

Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o hyd at 70 mya mewn rhai mannau
Bu'n rhaid cau'r A488 i'r ddau gyfeiriad ym Mhen-y-bont, ger Llandrindod ym Mhowys, am fod coeden wedi cwympo.
Yn Sir y Fflint bu'n rhaid cau'r bont sy'n arwain i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, rhwng yr A548 a'r B5129 yn Queensferry.
Tra yn nhre'r Fflint cyhoeddodd Cadw eu bod yn cau'r castell oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch y cyhoedd.
Yn ôl arbenigwyr y Swyddfa Dywydd, bydd gwyntoedd yn cyrraedd cyflymder o hyd at 70mya ar rannau o'r arfordir, a 55mya mewn mannau eraill.
Trefniadau teithio
Yn ôl Curig Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gogledd mae'n debyg sy'n mynd i gael y gwaethaf o'r storm.
"Ond dwi'n meddwl y bydd cryn dipyn o arfordir Cymru tuag at y gorllewin yn gallu gweld problemau o ran tonau mawr, "meddai.
"Ond 'de ni ddim yn disgwyl problemau o ran llifogydd i dai pobl.
"Rydym yn gofyn i bobl gadw yn glir o'r arfordir, mae'r ewin yn gallu dod dros y topiau ac mae hynny'n gallu bod yn beryglus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
