Cymru yn cael ei 'than-werthu' i ymwelwyr, medd pwyllgor
- Cyhoeddwyd

Mae'r pwyllgor yn poeni nad oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo atyniadau Cymru
Mae Cymru yn cael ei than-werthu i dwristiaid ac ymwelwyr yn ôl un o bwyllgorau San Steffan.
Mewn adroddiad newydd, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn pryderu bod gan y wlad broffil isel dramor o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU.
Mae'r adroddiad yn awgrymu creu "strategaeth gydlynol" i ddenu ymwelwyr o dramor i'r DU, a gosod targedau ynglŷn ag annog pobl i ymweld ag ardaloedd gwahanol o fewn y DU.
Mae ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod twristiaeth wedi perfformio yn dda yn hanner cyntaf eleni, ac mae gweinidogion yn honni bod yr ystadegau yn dangos bod y strategaeth bresennol yn rhoi canlyniadau "cryf" i Gymru.
'Proffil isel'
Yn ôl y pwyllgor, mae datblygiadau mewn cyfathrebu byd-eang a chynnydd ym mhoblogrwydd lleoliadau byd-eang ar gyfer gwyliau wedi ei gwneud hi'n haws denu busnesau ac ymwelwyr o farchnadoedd newydd a rhai sy'n datblygu.
Dywed yr adroddiad bod Cymru, fel gwlad fechan, yn wynebu her i geisio denu gwaith, twristiaeth a buddsoddiad o'r DU, Ewrop ac o bellach.
Mae 12 aelod y pwyllgor yn dweud bod Cymru yn cael ei than-werthu fel lleoliad i ymwelwyr.

Ychwanegodd yr adroddiad bod gan Gymru ddiffyg "brand cydlynol" i'r farchnad dramor, a bod angen marchnata'r "brand" yn "llawer mwy grymus".
Fe wnaeth y pwyllgor ymchwilio i rôl Llywodraeth y DU yn hyrwyddo Cymru dramor, gyda phwyslais arbennig ar dwristiaeth, buddsoddiad mewnol a marchnata, a diwylliant a iaith.

Twristiaeth yn tyfu
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod y diwydiant twristiaeth wedi gwella yng Nghymru yn hanner cyntaf y flwyddyn.
Yn ôl y ffigyrau:
Roedd cynnydd o 21% yn nifer yr ymwelwyr (415,000) a chynnydd o 1% yn y gwariant (£149m) o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd;
Roedd y DU wedi gweld cynnydd o 9% a 2% yn yr un meysydd;
Roedd cynnydd yn nifer y bobl wnaeth ymweld â Chymru o wahanol ardaloedd, gan gynnwys 6% yn fwy o Ogledd America a 31% yn fwy o'r Undeb Ewropeaidd.
O weddill gwledydd y byd, roedd cynnydd o 3% yn nifer yr ymwelwyr i Gymru.

'Twf sylweddol'

Mae gweithgareddau awyr agored wedi gweld llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Davies AS bod lle am "dwf sylweddol" yn y farchnad dwristiaeth yng Nghymru.
"Mae gan Gymru beth o'r tirwedd mwyaf trawiadol ym Mhrydain ac Ewrop, diwylliant, iaith a hanes unigryw, dinasoedd deinamig ac mae'n cynnig ystod o weithgareddau ac ansawdd bywyd uchel.
"Mae angen i'r byrddau twristiaeth sy'n gyfrifol am hyrwyddo Cymru gipio ar y cyfle yma a gwneud y mwyaf o botensial Cymru fel lleoliad.
"Dylai adran Fasnach a Buddsoddi'r DU ddechrau delio gyda'r gwahaniaethau mawr mewn cyfoeth a buddsoddiad ar draws y DU, ac rydyn ni'n ail-adrodd ein galwad i greu asiantaeth hybu masnach i Gymru, i hybu buddsoddiad mewnol yng Nghymru."
"Mae'n bryd i'r asiantaethau sy'n gyfrifol yng Nghaerdydd a Llundain a'r Gweinidogion perthnasol i weithio gyda'r gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd."
'Canlyniadau cryf'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y "strategaethau presennol yn rhoi canlyniadau cryf i Gymru".
"Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau heddiw yn dangos cynnydd sylweddol o 21% yn nifer yr ymwelwyr o dramor i Gymru dros chwe mis cyntaf y flwyddyn.
"Mae ein cynllun i farchnata Cymru dramor wedi newid i ganolbwyntio ar dair prif farchnad sydd wedi eu hadnabod fel rhai sydd a'r potensial mwyaf ar gyfer twf - yr Almaen, UDA ac Iwerddon.
"Hefyd, mae buddsoddiad mewnol i Gymru ar ei lefel uchaf erioed dros y diwrnodau diwethaf ac rydyn ni wedi croesawu buddsoddiadau busnes o UDA a Chanada fydd yn creu bron i 1,000 o swyddi newydd yn y sectorau gweithgynhyrchu a Thechnoleg Gwybodaeth yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd23 Mai 2014

- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013
