Cwest Megan Thomas: Dyfarniad Naratif
- Cyhoeddwyd

Bu farw Megan Thomas mewn damwain ger Llandeilo ym mis Mai.
Mae cwest wedi clywed bod merch 21 oed o Sir Gaerfyrddin wedi marw wrth iddi yrru i gyfarfod ffrind mewn gŵyl gerddorol, a hynny ar ôl iddi gymryd y cyffur ecstasi.
Roedd Megan Thomas wedi treulio'r diwrnod gyda ffrindiau yn y digwyddiad yng Nghaerfyrddin cyn gadael i fynd i'w gwaith fel gofalwraig gynorthwyol.
Wrth iddi yrru i ddychwelyd i'r ŵyl, gwrthdarodd ei char gyda char arall ar yr A40 ger ei chartref yn Llandeilo ym mis Mai.
Cofnododd crwner Sir Gaerfyrddin, Mark Layton, ddyfarniad naratif yn y cwest.
'Nifer o ffactorau'
Dywedodd y crwner wrth y cwest yn Aberdaugleddau bod Ms Thomas wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w phen.
Dywedodd y Sarsiant Andrew King wrth y gwrandawiad: "Mae prawf gwaed wedi dangos ei bod hi'n bosibl bod Megan yn dioddef o effeithiau ecstasi MDMA pan fu farw.
"Roedd hi'n teithio ar gyflymder o 60-70mya, gydag un o deiars blaen y car wedi colli rhywfaint o aer allan ohono.
"Mae hi'n ymddangos bod y ddamwain drasig hon wedi'i hachosi gan nifer o ffactorau gan gynnwys teithio ar gyflymder anaddas, effeithiau defnyddio cyffuriau a gwasgedd aer isel yn y teiar."
Clywodd y cwest bod alcohol yn system Ms Thomas, ond bod lefel yr alcohol o fewn y cyfyngiad cyfreithiol ar gyfer gyrru.
'Merch ofalgar a chariadus'
Roedd Ms Thomas wedi bod i Ŵyl Together yng Nghaerfyrddin a dywedodd ei theulu ei bod hi wrth ei bodd gyda digwyddiadau cerddorol, gan helpu gydag arddangosfeydd tân gwyllt.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu y byddai colled enfawr ar ei hôl:
"Roedd Megan yn ferch ofalgar a chariadus ac yn gweithio llawn amser fel gofalwraig gynorthwyol ar gyfer oedolion gydag anghenion arbennig - roedd yn rhywbeth roedd hi'n mwynhau gwneud."
Roedd teulu Ms Thomas eisoes wedi dweud ei bod hi wedi ei derbyn i Brifysgol Buxton i orffen gradd Gweithgareddau Awyr Agored ac Addysg cyn ei marwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2014
