Damwain angheuol: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion ar ôl damwain angheuol yng nhymoedd y de bore dydd Sul.
Bu tacsi gwyn mewn gwrthdrawiad gyda dyn tua 01:40 ar yr A4063 rhwng Croeserw a Cymer yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Yn ôl y gwasanaethau brys bu farw'r dyn yn y fan a'r lle
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.