Noson wobrwyo Bafta Cymru yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Y gyflwynwraig Alex Jones yn cyrraedd Canolfan y Mileniwm
Mae seremoni flynyddol BATFA Cymru yn cael chynnal yng Nghaerdydd nos Sul.
Cafodd y noson ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm ac roedd yna 28 o gatagoriau gwahanol.
Roedd enw un o'r enillwyr wedi ei gyhoeddi cyn dechrau'r noson, sef y newyddiadurwr Jeremy Bowen o'r BBC.
Cafodd Mr Bowen, sy'n enedigol o Gaerdydd ei gyflwyno gyda Gwobr Sian Phillips a hynny am flynyddoedd o waith yn darlledu o ryfeloedd.
Mae uchafbwyntiau seremoni BAFTA Cymru yn cael eu dangos ar S4C am 21:30 nos Sul.

Yr actores Nerys Hughes yn cyrraedd y seremoni
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2013
