Cau canolfan gelfyddydau a sinema y Scala?
- Cyhoeddwyd

Fe agorodd y Scala yn 1913 cyn cau ac ail-agor wedi ailwampiad yn 2009
Os na chaiff problemau ariannol eu datrys, efallai y bydd rhaid i ganolfan gelfyddydau ym Mhrestatyn gau ei drysau am y tro ola'.
Mae'n rhaid i'r Scala dalu £20,000 i gyngor Sir Ddinbych erbyn dydd Iau.
Nos Fercher, bydd swyddogion yn cwrdd i drafod y trafferthion.
Mae ymgyrch i godi pres wedi ei sefydlu i geisio seicrhau dyfodol hirdymor y ganolfan.
Wedi i'r Scala gau dros dro yn 2000, cafodd ailwampiad gwerth £3.5m cyn ail-agor naw mlynedd yn ddiweddarach.
Ergyd i elw
Yn ôl y rheolwr cyffredinol, Chris Bond, roedd y tywydd braf dros yr haf yn ergyd i elw gan nad oedd pobl yn ymweld mor aml.
Yn ogystal, roedd rhaid trwsio taflunydd - gan gostio mwy na £5,000.

Fis Mawrth, fe gollodd tri aelod o staff llawn amser eu swyddi er mwyn arbed arian.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Mr Bond gyfarfod â swyddogion cyllideb y cyngor i drafod y pryderon - sydd wedi bod yn amlwg ers ail-agor y ganolfan.
Mae'r awdurdod hefyd wedi awgrymu na fydd cyfraniad blynyddol o £40,000 yn cael ei roi i'r ganolfan y flwyddyn nesa' - yn rhan o ymdrechion y cyngor i ddelio gyda thoriadau i'r gyllideb.
Cytundeb credyd
Fe eglurodd llefarydd ar ran y cyngor fod gan yr awdurdod gytundeb credyd gyda'r Scala - sy'n gadael i'r ganolfan fod ddeufis ar ei hôl hi gydag ad-daliadau am gyflogau staff.
Fodd bynnag, fe gafodd y cyngor wybod y byddai taliad mis Tachwedd yn hwyr, gan achosi i'r ganolfan dorri rheolau'r cytundeb.
Ychwanegodd y llefarydd fod y Scala wedi derbyn benthyciad o £86,000 gan y cyngor yn 2010 - sydd heb ei ad-dalu hyd yn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2012
