Twyll bysiau Padarn: Cyhuddo tri
- Cyhoeddwyd

Wedi ymchwiliad i honiadau o dwyll mewn cwmni bysiau yng Ngwynedd, mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo tri o bobl.
Ddiwedd Mai, fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod nhw'n ymchwilio i gwmni bysiau Padarn yn Llanberis.
Yna, daeth y newyddion fod y cwmni'n dirwyn i ben.
Ddydd Mercher, fe gafodd tri o bobl - dynes 28 oed a dau ddyn 44 a 54 oed - eu cyhuddo o dwyll drwy gyfrifyddu anwir a thwyll drwy ddweud anwiredd.
Mae'r tri wedi cael eu rhyddhau, ac fe fyddan nhw'n ymddangos yn llys ynadon Caernarfon ar 15 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2014

- Cyhoeddwyd29 Mai 2014
